Bydd Arriva Cymru yn gwneud newidiadau i nifer o’i amserlenni o ddydd Sul 12 Ionawr ymlaen.
Rydym wedi medru newid ein data ar gyfer rhai o’r gwasanaethau hyn, ond ni fydd y gwasanaethau canlynol yn cael eu diweddaru yn ein Cynlluniwr Taith ac ar ein tudalen Amserlenni tan ganol yr wythnos a fydd yn cychwyn ar 13/1/2020:
- 4, 4A, 4H, X4, 44, 44A, 4B, 4X, 24, X43
- 62, 62A, 62B, 62X
- 5, 5C, 5E
Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a’ch sicrhau ein bod yn gweithio’n galed i ddiweddaru’r data hwn.
Yn y cyfamser, gallwch weld trosolwg o’r newidiadau dan sylw a’r amserlenni diwygiedig ar wefan Arriva Cymru.
Hoffem ddiolch am eich amynedd ac ymddiheuro unwaith eto am unrhyw anghyfleustra.