Problemau teithio

Arriva Cymru

O ddydd Llun 6 Ionawr 2020 ymlaen, bydd Hill Street yng Nghefn Mawr ar gau er mwyn gosod prif bibell nwy newydd yn lle’r hen un. Bydd y gwaith yn para oddeutu 3 wythnos a bydd gwasanaeth 5C yn cael ei ddargyfeirio.

Bydd y dargyfeiriad fel a ganlyn:

 

Llwybr 5C – Wrecsam i Ysgol Llangollen

Bydd bysiau’n gweithredu yn ôl yr arfer hyd at Tesco Cefn Mawr. Yna, byddant yn troi i’r dde i mewn i Oxford Street, yn troi i’r chwith i mewn i Hill Street, yn troi i’r dde i mewn i Plas Kynaston Lane, yn troi i’r dde i mewn i Coronation Street, yn troi i’r dde i mewn i Cae Gwilym Lane, yn troi i’r chwith i mewn i Queen Street ac yna’n dilyn eu llwybr arferol i Ysgol Llangollen.

 

Llwybr 5C – Ysgol Llangollen i Wrecsam

Bydd bysiau’n gweithredu yn ôl yr arfer hyd at Queen Street. Yna, byddant yn troi i’r dde i mewn i Cae Gwilym Lane, yn troi i’r chwith i mewn i Coronation Street, yn troi i’r chwith i mewn i Plas Kynaston Lane, yn troi i’r dde i mewn i Hill Street, yn troi i’r chwith i mewn i Oxford Street, Tesco Cefn Mawr ac yna’n dilyn eu llwybr arferol i Wrecsam.

Bydd Hampden Way, Ystâd Plas Madoc ar gau hefyd a bydd dargyfeiriadau pellach ar waith fel a ganlyn.

 

Llwybr 5C – Wrecsam i Ysgol Llangollen

Dim dargyfeiriad pellach.

 

Llwybr 5C – Ysgol Llangollen i Wrecsam

Bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio o Tesco Cefn Mawr ar hyd Well Street a Stryd Fawr Rhosymedre. Yna, byddant yn troi i’r chwith i mewn i Park Road, yn dilyn y ffordd i Stryd Fawr Rhiwabon ac yna’n dilyn eu llwybr arferol i Wrecsam.

 

Yn ôl