Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd Sloper Road, Caerdydd ar gau dros dro rhwng Virgil Street a Bessemer Road er mwyn cyflawni gwaith ffordd rhwng yr amserau canlynol ar y diwrnodau canlynol:

  • O 07:30am ddydd Llun 27 Ionawr tan amser y bws olaf ddydd Iau 30 Ionawr.
  • O 07:30am ddydd Sadwrn 1 Chwefror tan 20:00 ddydd Gwener 14 Chwefror.

Bydd gwasanaethau 1 a 2 yn teithio rhwng Corporation Road a Sloper Road ar hyd Heol Penarth, Hadfield Road a Bessemer Road i’r ddau gyfeiriad. Ni fydd yr arosfannau bysiau ar hyd Virgil Street, Cornwall Street a Clare Road yn cael eu gwasanaethu.

Ni fydd gwasanaethau 92B a 94B yn teithio ar hyd Bessemer Road. Byddant yn cael eu dargyfeirio ar hyd Sloper Road a Heol Penarth i’r ddau gyfeiriad, ac ni fyddant yn gwasanaethu’r arosfannau bysiau sydd yn Bessemer Road.

Bydd gwasanaethau ysgol 604, 609 a 610 yn teithio rhwng Sloper Road a Heol Penarth ar hyd Bessemer Road a Hadfield Road i’r ddau gyfeiriad. Ni fydd yr arosfannau bysiau ar hyd Sloper Road (rhwng Virgil Street a Heol Penarth) yn cael eu gwasanaethu.

Caiff cwsmeriaid eu cynghori i ddefnyddio’r arosfannau bysiau sydd ar hyd llwybr y dargyfeiriad yn lle hynny.

Yn ôl