Problemau teithio

Bws Caerdydd:

Bydd Virgil Street ar gau oherwydd gwaith ffordd rhwng yr amserau canlynol ar y dyddiadau canlynol:

  • Rhwng 07:30 ddydd Llun 17 Chwefror ac amser y bws olaf ddydd Iau 20 Chwefror **extended until 16:30 on 21/2/2020
  • Rhwng 07:30 ddydd Sadwrn 22 Chwefror ac amser y bws olaf ddydd Llun 24 Chwefror
  • Rhwng 07:30 ddydd Mercher 26 Chwefror ac amser y bws olaf ddydd Gwener 28 Chwefror.

 

Bydd gwasanaeth Cylch y Ddinas 1 yn cael ei ddargyfeirio rhwng Corporation Road a Virgil Street ar hyd Heol Penarth a Sloper Road.

Ni fydd yr arosfannau bysiau canlynol yn cael eu gwasanaethu: Durham Street, Clare Road (Cornwall Street), Cornwall Court a Sevenoaks Park.

Dylech ddefnyddio’r arosfannau yn Heol Penarth a Sloper Road (City Gardens) yn lle hynny.

 

Bydd gwasanaeth Cylch y Ddinas 2 yn cael ei ddargyfeirio rhwng Virgil Street a Corporation Road ar hyd Sloper Road a Heol Penarth.

Ni fydd yr arosfannau bysiau canlynol yn cael eu gwasanaethu: Wynnstay Close, Powderham Drive, Hereford Street (Cornwall Street) a Pentre Street.

Dylech ddefnyddio’r arosfannau yn Sloper Road (Ysgol Parc Ninian) a Heol Penarth yn lle hynny.

 

Bydd gwasanaethau 92, 93 a 94 yn cael eu dargyfeirio rhwng Cornwall Street a Sloper Road ar hyd North Clive Street a Heol Penarth i’r ddau gyfeiriad.

Ni fydd yr arosfannau bysiau canlynol o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu: Sevenoaks Park ac Ysgol Parc Ninian.

Ni fydd yr arosfannau bysiau canlynol i gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu: Heol Penarth (Sloper Road), City Gardens, Wynnstay Close a Powderham Drive.

Dylech ddefnyddio’r arosfannau yn Cornwall Street a Heol Penarth yn lle hynny.

 

Bydd gwasanaethau 92B a 94B yn cael eu dargyfeirio rhwng Cornwall Street a Bessemer Road ar hyd North Clive Street, Heol Penarth a Sloper Road i’r ddau gyfeiriad.

Ni fydd yr arosfannau bysiau canlynol yn cael eu gwasanaethu: Sevenoaks Park (o gyfeiriad canol y ddinas), Wynnstay Close (i gyfeiriad canol y ddinas) a Powderham Drive (i gyfeiriad canol y ddinas).

Dylech ddefnyddio’r arosfannau yn Cornwall Street, Heol Penarth a Sloper Road (Heol Penarth a City Gardens) yn lle hynny.

 

Yn ôl