Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd Sloper Road ar gau dros dro er mwyn cyflawni gwaith ffordd y tu allan i Ysgol Parc Ninian a City Gardens, o amser y bws cyntaf ddydd Llun 11 Mai tan amser y bws olaf ddydd Gwener 12 Mehefin.

Bydd gwasanaethau 92 a 94 yn cael eu dargyfeirio rhwng Virgil Street a Heol Penarth ar hyd Sloper Road, Bessemer Road a Hadfield Road.

Ni fydd yr arosfannau bysiau canlynol yn cael eu gwasanaethu: o gyfeiriad canol y ddinas – Ysgol Parc Ninian, Sloper Road (Heol Penarth) a’r Swyddfa Ddidoli; i gyfeiriad canol y ddinas – Y Swyddfa Ddidoli, Heol Penarth (Sloper Road) a City Gardens.

Dylech ddefnyddio’r arosfannau bysiau ar Virgil Street, Bessemer Road neu Hadfield Road yn lle hynny.

Yn ôl