Problemau teithio

Bydd arosfannau bysiau yn Stryd Wood ar gau o ddydd Mawrth 28 Gorffennaf ymlaen oherwydd bod trefn y ffyrdd yn cael ei newid. Bydd gwasanaethau 8/9, 92, 94 a 95 yn defnyddio’r arosfannau canlynol yn lle Stryd Wood:

Gwasanaeth(au) Lleoliad newydd
8 a 9 i gyfeiriad Ysbyty’r Waun Bydd y bysiau’n aros wrth arhosfan JE Arcêd Wyndham yn lle Tŷ Southgate.
8 a 9 i gyfeiriad y Bae Bydd y bysiau’n gwasanaethu ochr ddeheuol Heol y Tollty (arhosfan JL) fel y maent ar hyn o bryd, ac yna Stryd Tudor. Ni fydd y gwasanaethau hyn yn aros mwyach yn Stryd Wood.
92 a 94 Bydd y bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Stryd Havelock.
95 Bydd y bysiau’n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Stryd Havelock.
95 i gyfeiriad Ysbyty’r Waun Bydd y bysiau’n gollwng ac yn casglu teithwyr yn Stryd Havelock, ac yna’n aros wrth arhosfan JE Arcêd Wyndham hefyd.
95 o gyfeiriad Ysbyty’r Waun Bydd y bysiau’n gwasanaethu ochr ddeheuol Heol y Tollty (arhosfan JL) ac yna Stryd Havelock.
Yn ôl