Problemau teithio

First Cymru
 
Er mwyn i Is-adran Gwaith Cynnal a Chadw Cynlluniedig Cyngor Dinas a Sir Abertawe roi wyneb newydd ar y ffordd, bydd yn rhaid i ran ogleddol Parkway, Ystâd Parc Sgeti gael ei chau dros dro i gerbydau.
 
Bydd y ffordd ar gau rhwng 18:30 a chanol nos: nos Iau 24 Medi a nos Wener 25 Medi 2020 (neu nes y bydd y gwaith wedi’i gwblhau, pa amser bynnag ddaw gyntaf).
 
Tra bydd y ffordd ar gau, ni fydd gwasanaeth 20 yn gallu gwasanaethu Ystâd Parc Sgeti.
 
Bydd cerbydau’n cael eu dargyfeirio ar hyd Sketty Park Road a Heol Gŵyr i’r DDAU GYFEIRIAD.
 
Bydd hynny’n effeithio ar fysiau 18:20, 18:50, 19:20 a 19:50 o Orsaf Fysiau Abertawe a bysiau 18:24, 18:47, 19:15, 19:45 a 20:15 o Dderlwyn.
 
Yn ôl