Problemau teithio

Newport Bus

O ddydd Llun 28 Medi ymlaen, bydd rhan o Caerleon Road ar gau oherwydd bod yr awdurdod lleol yn cwympo coed ar hyd y llwybr dan sylw. Disgwylir y bydd y rhan hon o’r ffordd ar gau am oddeutu 8 wythnos.

Yn ystod y cyfnod dan sylw, bydd y gwasanaethau canlynol yn gweithredu amserlen dros dro ac yn dilyn llwybrau amgen. Nodwch na fydd y ffaith bod y rhan hon o’r ffordd ar gau yn effeithio ar wasanaethau 26A/26C Sain Silian a gwasanaeth Fflecsi 26.

Gwasanaethau 27/28 Caerllion / 29B Cwmbrân / SJ12 Ysgol Joseff Sant

Bydd y gwasanaethau hyn yn teithio ar hyd Caerleon Road rhwng canol y ddinas a chylchfan yr M4, ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd yr A4042 i Lanfrechfa ac yn gwasanaethu Caerllion drwy Bont-hir. Bydd y dargyfeiriad hwn ar waith ar gyfer gwasanaethau i gyfeiriad canol y ddinas ac o gyfeiriad canol y ddinas.

60 Trefynwy

Bydd gwasanaeth 60 yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Chepstow Road, Royal Oak Hill a Belmont Hill a bydd yn ailymuno â’i lwybr arferol ar y Stryd Fawr yng Nghaerllion. Bydd pob gwasanaeth i bob cyfeiriad yn cael eu dargyfeirio ar hyd y llwybr hwn. Nodwch na fydd y gwasanaeth yn teithio o gwbl ar hyd Caerleon Road. Felly, bydd yn rhaid i unrhyw rai y mae arnynt angen y gwasanaeth oddi yno fynd i Orsaf Fysiau Casnewydd i’w ddal.

Ewch i wefan Newport Bus i gael gwybodaeth ychwanegol.

Yn ôl