Problemau teithio

South Wales Transport

Bydd pont Waun-gron rhwng Pontarddulais a Phengelli ar gau am gyfnod hir er mwyn ei hadnewyddu. Felly, o ddydd Mawrth 10 Tachwedd 2020 ymlaen, bydd newidiadau i rai o lwybrau ac amserau bysiau coleg Campws Gorseinon yn yr ardal gyfagos.

Llwybr C2

Ni fydd y bws hwn yn gallu teithio drwy Bengelli na Phenyrheol. Bydd y bws yn casglu myfyrwyr 5 munud yn gynharach rhwng Sgwâr Glanffrwd a Hen Swyddfa Bost Pontarddulais, ac yna yn teithio i’r coleg drwy’r Hendy ac ar hyd yr M4.

Bydd angen i fyfyrwyr sy’n dod ar y bws wrth arhosfan Pentre Road (yr arhosfan ar ôl y King Hotel) fynd i’r arhosfan bysiau y tu allan i Gartref Preswyl Tŷ Hafan ar Bolgoed Road, a mynd ar fws Llwybr C1 am 08.35.

Bydd myfyrwyr ym Mhengelli a Phenyrheol yn cael eu casglu gan fws llwybr arall dros dro o’r enw Llwybr C2A, ar amserau newydd. Bydd bws Llwybr C2A yn gadael Pengelli am 09.15 a Frampton Road am 09.18.

Bydd arwydd “C2, Pontarddulais yn unig” ar fws Llwybr C2 a bydd arwydd “C2A, Pengelli yn unig” ar fws Llwybr C2A, felly cofiwch edrych ar yr arwydd wrth fynd ar y bws (yn enwedig wrth fynd adref bob prynhawn).

Llwybr M

Ni fydd y bws hwn yn gallu teithio drwy Bengelli ar ei ffordd i’r coleg. Er mwyn galluogi’r bws i deithio ar hyd yr M4 yn lle hynny, bydd angen i fyfyrwyr ar Sgwâr yr Hendy fynd ar fws Llwybr S wrth yr arhosfan bysiau sydd yr ochr arall i’r heol (i gyfeiriad Llanelli). Bydd bws Llwybr S yn casglu myfyrwyr ar Sgwâr yr Hendy (i gyfeiriad Llanelli) am 08.48, h.y. ychydig funudau’n gynharach na bws Llwybr M o’r blaen.

Llwybr S

Yn awr, bydd y bws hwn yn casglu myfyrwyr ar Sgwâr yr Hendy (i gyfeiriad Llanelli) am 08.48 a bydd yn teithio i’r coleg ar hyd yr M4 yn hytrach na thrwy Bengelli. Ni fydd yr amserau a’r mannau casglu yn newid ar gyfer y sawl sy’n defnyddio Llwybr S ar hyn o bryd.

Yn ôl