Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd ffordd Blaenau’r Cymoedd ar gau i bob math o draffig nos Wener 20 Tachwedd (ar ôl amser y bws olaf) a thrwy gydol dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng Bryn-mawr a Gilwern (Cylchfan Glanbaiden).

Dydd Sadwrn 21 Tachwedd 2020

Gwasanaeth X4: Defnyddir bysiau bach i alluogi pobl i deithio rhwng Bryn-mawr a’r Fenni. Bydd gofyn i deithwyr sy’n teithio o’r gorllewin i gyfeiriad y dwyrain neu o’r dwyrain i gyfeiriad y gorllewin ar draws Bryn-mawr newid o fws mawr i fws bach. Bydd y dargyfeiriad yn un hir a bydd angen i gwsmeriaid sy’n teithio i’r Fenni neu o’r Fenni ddechrau eu taith yn gynt. At hynny, ni fyddwn yn gallu gwasanaethu arhosfan Trafalgar House ym Mryn-mawr. Dylai teithwyr ar gyfer yr arhosfan hwn ddefnyddio gorsaf fysiau Bryn-mawr. Gallwch weld yr amserlen dydd Sadwrn sydd wedi’i diwygio ar gyfer y gwasanaeth hwn yma.

Ni fydd gwasanaeth 3, Bryn-mawr – Y Fenni, yn rhedeg.  

Yn ôl