Bydd Heol y Castell yn ailagor i fysiau a thacsis yn unig oddeutu canol dydd ddydd Sul 29 Tachwedd ar ôl cael ei chau’n gynharach eleni.
Bws Caerdydd
Bydd Heol y Castell yn ailagor i fysiau a thacsis o ddydd Sul 29 Tachwedd ymlaen. O ganlyniad, bydd gwasanaethau 11, 28, 28A, 28B, 30, 35, 44, 45, 49, 50, 52, 57 a 58 yn ailddechrau mynd o amgylch y ddinas fel yr oeddent cyn i’r ffordd gael ei chau.
Yn ogystal â’r newidiadau i lwybrau bysiau, bydd rhai arosfannau bysiau ac amserlenni hefyd yn newid o’r dyddiad hwnnw ymlaen.
Ewch i wefan Bws Caerdydd i gael y manylion ac i weld yr holl amserlenni’n llawn.
NAT Group
Yn dilyn y cyhoeddiad bod Heol y Castell wedi ailagor ers 29 Tachwedd, bydd llwybr gwasanaeth C8 yn newid o ddydd Sul 6 Rhagfyr ymlaen.
Bydd y gwasanaeth yn gweithredu’n awr ar hyd Heol y Castell, Heol y Porth a Heol Penarth (ac yn gwasanaethu gorsaf Caerdydd Canolog) cyn parhau ar hyd Bute Street i gyfeiriad Bae Caerdydd. Gallwch weld yr amserlen newydd yma.
Newport Bus
O ddydd Sul 29 Tachwedd ymlaen, bydd gwasanaeth 30 yn dychwelyd i’w lwybr gwreiddiol i mewn ac allan o Gaerdydd, pan fydd Heol y Castell yn cael ei hailagor i fysiau a thacsis. Ni fydd yr amserlen yn newid ar hyn o bryd, dim ond y llwybr. Mae hynny’n golygu y bydd gwasanaeth 30 yn teithio’n ôl ac ymlaen i Heol y Tollty ar hyd Heol y Porth, Heol y Castell a Heol y Brodyr Llwydion er mwyn ailymuno â Heol Casnewydd.
Stagecoach yn Ne Cymru
Bydd y newidiadau canlynol i arosfannau bysiau ar waith o ddydd Llun 30 Tachwedd ymlaen
Services | Towards | Bus Stops from 30th November |
124 | Creigiau, Talbot Green, Tonypandy, Porth, Maerdy | Lower St Mary St JP |
122 | Creigiau, Talbot Green, Tonypandy, Porth, Maerdy | Lower St Mary St JP |
X3 | Cwmbran, Pontypool, Abergavenny/Hereford |
Lower St Mary St JP or Greyfriars Road GH |
T4/X4 | Pontypridd, Merthyr Tydfil, Brecon, Newtown, Brynmawr, Abergavenny |
Lower St Mary St JP or Kingsway GC |
26 | Caerphilly,Blackwood |
Lower St Mary St JP or Kingsway GB |
132 | Porth, Maerdy |
Lower St Mary St JP or Kingsway GB |
86/86X | Lisvane & Thornhill | Greyfriars Road GH |
136 | Pentyrch | Greyfriars Road GH |