Problemau teithio

Gan fod ffordd ar gau am gyfnod hir yn Waun-gron (ychydig i’r gogledd o Bengelli), roedd Cyngor Abertawe wedi bod yn darparu gwasanaeth bws lleol rhwng Gorseinon a Phontarddulais (gwasanaeth rhif 16X) ar gyfer y rhan o wasanaeth 16 First Cymru a oedd yn gweithredu rhwng Pengelli a Phontarddulais i’r ddau gyfeiriad. Ar 20/11/2020, yn anffodus, bu’n rhaid rhoi’r gorau dros dro i ddarparu gwasanaeth 16X oherwydd bod angen cau ffordd ar frys.

Bydd gwasanaeth 16X yn ailddechrau ddydd Llun 30 Tachwedd ond bydd yn dilyn llwybr gwahanol. Yn hytrach na theithio drwy Bengelli, bydd yn teithio drwy Benlle’r-gaer a Phont-lliw i’r ddau gyfeiriad. Yn ogystal, bydd yn rhaid hepgor y rhan o’r llwybr a oedd yn mynd drwy Lan-ffrwd, oherwydd yr amser ychwanegol y bydd yn ei gymryd i deithio ar hyd y llwybr diwygiedig.

*Amserlen newydd ar gyfer llwybr 16X, a fydd ar waith o 30/11/2020 ymlaen *

Dyma’r llwybr diwygiedig:

O Orsaf Fysiau Gorseinon ar hyd West Street, Stryd Fawr Gorseinon, Gorseinon Road, yr A4240, yr A48, Swansea Road, Bryntirion Road, Bolgoed Road (ar y ffordd allan: St Teilo Street; ar y ffordd yn ôl: Water Street, Dulais Road).

Yn ôl