Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi datgan y bydd Glamorgan Street, Perthcelyn ar gau o ddydd Mawrth 5 Ionawr 2021 ymlaen er mwyn cyflawni gwaith hanfodol. Disgwylir y bydd y ffordd ar gau am bythefnos.

Ni fydd gwasanaeth 95A yn gallu gweithredu drwy Darren-las na Pherthcelyn, a bydd bysiau gwennol a ddarperir gan Davies Coaches yn gweithredu yn lle’r gwasanaeth. Bydd y gwasanaeth bysiau gwennol ar gael yn rhad ac am ddim.

  • Bydd bysiau gwennol yn gweithredu rhwng Gorsaf Reilffordd Aberpennar, Oxford Street, High Street, Llanwonno Road a The Willows, Perthcelyn a byddant yn dychwelyd ar hyd yr un llwybr.
  • O ddydd Llun i ddydd Sadwrn bydd y bysiau gwennol yn gadael Gorsaf Reilffordd Aberpennar am 47 munud wedi’r awr. Bydd y bws cyntaf yn gadael am 07.47.
  • Bydd y bysiau gwennol yn aros wrth yr Orsaf Reilffordd er mwyn cysylltu â gwasanaeth 95A ar gyfer unrhyw gwsmeriaid sydd am deithio i Darren-las a Pherthcelyn.
  • Bydd y bysiau gwennol yn dychwelyd o arhosfan bysiau The Willows ym Mherthcelyn ar ben pob awr. Bydd y bws cyntaf i Orsaf Reilffordd Aberpennar yn gadael am 08.00.
  • Bydd y bws gwennol olaf i Berthcelyn yn gadael am 17.47 a’r bws gwennol olaf i Orsaf Reilffordd Aberpennar yn gadael am 18.00.
Yn ôl