Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

Rhwng dydd Llun 25 Ionawr a dydd Mercher 27 Ionawr, bydd rhan o Abergavenny Road ar gau yng Ngilwern er mwyn cyflawni gwaith ffordd. Bydd hynny’n effeithio ar wasanaethau X4 a 3 Stagecoach yn Ne Cymru.

Bydd y bysiau’n cael eu dargyfeirio, felly ni fyddant yn gallu gwasanaethu’r arosfannau a elwir yn Rectory a Brambles. Byddant yn dal yn gallu gwasanaethu arhosfan bysiau swyddfa bost Gilwern i’r ddau gyfeiriad.
 

Yn ôl