Problemau teithio

Bydd Gorsaf Drenau Bow Street, Ceredigion yn agor ddydd Llun 15 Chwefror 2021. Bydd yr orsaf newydd yn Bow Street yn cynnwys maes parcio, cyfnewidfa fysiau a lle storio beiciau, a bydd yn gwella hygyrchedd y rhwydwaith rheilffyrdd, yn hybu’r gwaith o integreiddio trafnidiaeth ac yn darparu dull amgen o deithio yn lle car preifat.

Bydd llwybrau gwasanaeth T2 (sy’n rhan o rwydwaith TrawsCymru) a gwasanaeth X28 Lloyds Coaches yn newid, a byddant yn gweithredu amserlen ddiwygiedig o’r dyddiad hwn ymlaen. Gallwch gael gafael ar yr amserlenni diwygiedig isod neu drwy ein tudalen am y Coronafeirws, a bydd ein tîm data yn mynd ati cyn gynted ag sy’n bosibl i ddiweddaru’r amserlenni hyn ar ein Cynlluniwr Taith a’n tudalen Amserlenni.

Diolch am eich amynedd.

Yn ôl