Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd Pantbach Road, Caerdydd ar gau dros dro i’r ddau gyfeiriad o’r gyffordd â Tŷ Gwyn Road / Tŷ'n-y-Parc Road i’r gyffordd â Heol-y-Deri, rhwng amser y bws cyntaf ddydd Llun 22 Chwefror ac amser y bws olaf ddydd Sul 21 Mawrth.

Gwaith ar y system nwy sydd i gyfrif am hynny.

  • Bydd gwasanaethau 21 a 23 yn cael eu dargyfeirio ar hyd Tŷ Wern Road, Caerphilly Road a Beulah Road i’r ddau gyfeiriad.
  • Gwasanaeth 21: Ni fydd arhosfan bysiau Tŷ’n-y-Cae Grove, ar Pantbach Road, yn cael ei wasanaethu. Dylech ddefnyddio arosfannau bysiau Kyle Avenue (ar Pantbach Road) neu siopau Rhiwbeina (ar Heol-y-Deri) yn lle hynny.
  • Gwasanaeth 23: Ni fydd arhosfan bysiau Porthamal Gardens, ar Pantbach Road, yn cael ei wasanaethu. Dylech ddefnyddio arosfannau bysiau siopau Rhiwbeina (ar Heol-y-Deri) neu Homelands Road (ar Pantbach Road) yn lle hynny.
Yn ôl