Problemau teithio

O ddydd Llun 12 Ebrill ymlaen, ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar deithio yng Nghymru nac ar deithio ar draws ffiniau ledled y DU. Ni chaniateir i bobl deithio dramor heb esgus rhesymol.

Mae’r feirws yn dal o gwmpas, felly mae’n bwysig eich bod yn parhau i ymddwyn yn gyfrifol wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hynny’n golygu:

  • Gwisgo gorchudd wyneb, oni bai eich bod wedi eich eithrio.
  • Glynu wrth yr holl ganllawiau ynghylch cadw pellter cymdeithasol.
  • Lle bo modd, cynllunio eich teithiau fel eich bod yn osgoi cyfnodau prysur.
  • Golchi neu ddiheintio eich dwylo ar ddechrau a diwedd pob taith.
  • Parchu eich cyd-deithwyr a staff trafnidiaeth.

Rydym yn disgwyl i nifer y gwasanaethau trafnidiaeth sy’n gweithredu gynyddu’n sylweddol yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd y newidiadau hynny’n rhai byr rybudd, felly rydym yn annog pob cwsmer i fynd i’n tudalen bwrpasol am y Coronafeirws cyn teithio er mwyn iddynt gael y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau, oherwydd mae’n bosibl na fydd ein Cynlluniwr Taith a’n Hamserlenni wedi’u diweddaru. Mae ein tîm data yn gweithio bob awr o’r dydd i ddiweddaru’r holl wybodaeth cyn gynted ag sy’n bosibl.

Os oes angen unrhyw help arnoch i gynllunio eich taith, ffoniwch ein rhif Rhadffôn ar 0800 464 00 00 (rhwng 7am ac 8pm bob dydd).

Yn ôl