Problemau teithio

Newport Bus

O ddydd Llun 19 Ebrill tan ddydd Mercher 21 Ebrill, ni fydd gwasanaeth 60 Newport Bus yn gallu gweithredu rhwng Caerllion a Brynbuga.

Bydd pob gwasanaeth i gyfeiriad canol y ddinas ac o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu dargyfeirio ar hyd Chepstow Road a’r A449 ac yn ailymuno â’u llwybr arferol ym Mrynbuga. Bydd pob bws sy’n gadael ac yn cyrraedd Casnewydd yn gweithredu o’r orsaf fysiau neu ar hyd Chepstow Road yn unig.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddargyfeirio oherwydd gwaith ffordd hanfodol yn ardal Llanbadog.

Yn ôl