Problemau teithio

Cofiwch y bydd llawer o weithredwyr bysiau’n rhedeg gwasanaeth gwahanol i’r arfer ddydd Llun Gŵyl y Banc. Fel rheol, bydd hynny’n golygu gweithredu gwasanaeth dydd Sul neu ddim gwasanaeth o gwbl.

Er bod ein tîm data’n parhau i weithio ar nifer sylweddol o ddiweddariadau i amserlenni, a gafwyd gan weithredwyr ledled Cymru, ni allwn warantu y bydd ein Cynlluniwr Taith a’n tudalen Amserlenni yn rhoi darlun cywir o lefelau gwasanaeth pob gwasanaeth ar Ŵyl y Banc.

I weld yr holl drefniadau teithio ar gyfer Gŵyl y Banc a’r holl ddiweddariadau i amserlenni, yr ydym wedi’u cael gan weithredwyr, ewch i’n tudalen bwrpasol am y Coronafeirws ac edrychwch ar y wybodaeth sydd dan enw eich gweithredwr er mwyn gweld sut y bydd yn gweithredu ddydd Llun Gŵyl y Banc.

Os oes angen unrhyw help arnoch i gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus, ffoniwch aelodau tîm ein canolfan gyswllt yn rhad ac am ddim ar 0800 464 00 00 rhwng 7am ac 8pm bob dydd.

Diolch am eich amynedd ac am fod mor barod i ddeall.

Yn ôl