Problemau teithio

Oherwydd nifer fawr o newidiadau byr rybudd i amserlenni, nid ydym o hyd yn gallu diweddaru ein Cynlluniwr Taith a’n Hamserlenni mor gyflym ag y byddem yn dymuno.

Dylech droi at ein tudalen am Covid i gael y wybodaeth ddiweddaraf am amserlenni a ffonio ein rhif Rhadffôn, sef 0800 464 00 00, rhwng 7am ac 8pm bob dydd os oes angen unrhyw help arnoch i gynllunio eich taith.

Yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru nid oes unrhyw gyfyngiadau mewn grym ar gyfer teithiau i mewn ac allan o Gymru, cyhyd â’ch bod yn teithio i wlad neu o wlad sydd yn y DU neu yn yr Ardal Deithio Gyffredin ehangach.

Mae’r feirws yn dal o gwmpas, felly mae’n bwysig eich bod yn parhau i ymddwyn yn gyfrifol wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hynny’n golygu:

  • Gwisgo gorchudd wyneb, oni bai eich bod wedi eich eithrio.
  • Glynu wrth yr holl ganllawiau ynghylch cadw pellter cymdeithasol.
  • Lle bo modd, cynllunio eich teithiau fel eich bod yn osgoi cyfnodau prysur.
  • Golchi neu ddiheintio eich dwylo ar ddechrau a diwedd pob taith.
  • Parchu eich cyd-deithwyr a staff trafnidiaeth.
Yn ôl