Problemau teithio

Darllenwch amserlenni gwasanaethau Stagecoach yn Ne Cymru yn ofalus gan chwilio am y codau ar gyfer ‘Diwrnod Coleg’ a ‘Diwrnod Ysgol’.

Bydd amserlenni ar gyfer gwasanaethau perthnasol yn dangos rhai amserau sydd â’r cod 'SD' neu 'CD' uwch eu pen, er mwyn dangos a yw’r teithiau yn deithiau diwrnod ysgol neu ddiwrnod coleg yn unig.

Bydd dau fws yn gweithredu ar gyfer gwasanaethau ysgol a choleg. Bydd Stagecoach yn Ne Cymru yn dangos, ar y sgriniau sydd ar flaen y bysiau, i ble y mae pob gwasanaeth yn mynd.

Yn ôl