Problemau teithio

CrossCountry Trains

Mae Network Rail yn cynnal a chadw ac yn atgyweirio cledrau, signalau a gorsafoedd yn gyson. Weithiau, bydd hynny’n golygu bod yn rhaid i CrossCountry Trains newid amserlenni a gyhoeddwyd neu gyflwyno bysiau yn lle gwasanaethau trên.

Gallwch weld manylion y gwelliannau arfaethedig ar galendr fesul diwrnod, wythnos a mis ar wefan CrossCountry Trains. Dylech ddarllen y wybodaeth hon yn ofalus cyn i chi deithio, er mwyn chwilio am unrhyw welliannau arfaethedig (gan gynnwys gwasanaethau bws sy’n gweithredu yn lle gwasanaethau trên) a allai effeithio ar eich taith.

 

Problemau teithio byr rybudd

Ar gyfer problemau teithio ar y diwrnod, a allai darfu ar wasanaethau, caiff cwsmeriaid eu hannog i ddefnyddio adnodd Gwirio Taith CrossCountry Trains cyn iddynt deithio.

Yma, gallwch weld y wybodaeth ddiweddaraf am reilffyrdd, y wybodaeth ddiweddaraf am orsafoedd, manylion trenau sydd wedi’u canslo ar fyr rybudd neu fanylion unrhyw oedi, a gwybodaeth ddefnyddiol arall am broblemau a allai effeithio ar eich taith.

Yn ôl