Problemau teithio

P&O Lloyds

Oherwydd mesurau diogelwch a chyfyngiadau Covid-19 sy’n parhau, dylech nodi mai ar gyfer plant ysgol yn unig y bydd unrhyw deithiau y nodwyd eu bod yn deithiau ‘Diwrnod Ysgol yn unig’ ar wasanaeth 8 gan P&O Lloyds (o’r Wyddgrug i Sealand Manor).

Mae hynny’n effeithio ar wasanaeth 7:45 o Shotton i gyfeiriad yr Wyddgrug a gwasanaeth 15:00 o’r Wyddgrug i gyfeiriad Shotton.

Mae gan bob un o wasanaethau eraill P&O Lloyds ddau fws sy’n gweithredu ar yr un pryd ar Ddiwrnodau Ysgol neu maent yn gallu gweithredu’n ôl yr arfer mewn modd sy’n galluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol yn ddiogel.

Yn ôl