Problemau teithio

Oherwydd effaith barhaus Covid, gall gweithredwyr trafnidiaeth newid eu hamserlenni o hyd ar fyr rybudd.

Mae ein tîm data yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein Cynlluniwr Taith a’n tudalen Amserlenni yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted ag sy’n bosibl.

Fodd bynnag, hoffem annog pob cwsmer i fynd i’n tudalen Covid cyn teithio. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon ag unrhyw amserlenni y mae gweithredwyr trafnidiaeth wedi’u hanfon atom, er mwyn sicrhau bod modd i chi gael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf.

Os oes yna unrhyw wybodaeth ar ein gwefan neu’n ap sy’n anghywir yn eich barn chi, anfonwch neges ebost atom yn feedback@traveline.cymru gan nodi manylion y gwall(au), a bydd ein tîm data’n ymchwilio iddynt cyn gynted ag sy’n bosibl.

Diolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.

Yn ôl