Problemau teithio

Oherwydd effaith barhaus Covid-19, dim ond myfyrwyr sy’n mynd i’r ysgol neu’r coleg dan sylw all ddefnyddio bysiau Stagecoach yn Ne Cymru ar gyfer ysgolion neu golegau. Ni chaniateir i’r cyhoedd ddefnyddio’r gwasanaethau hynny.

Cyn teithio, cofiwch chwilio am y codau ‘CD’ ac ‘SD’ ar amserlenni, oherwydd dim ond myfyrwyr sy’n mynd i’r ysgol neu’r coleg dan sylw all ddefnyddio’r gwasanaethau hynny.

Gallwch hefyd fynd i dudalen bwrpasol Stagecoach yn Ne Cymru ar gyfer Amserlenni Bysiau Ysgolion a Cholegau i weld pob amserlen lawn ar gyfer ysgolion/colegau.

Erbyn mis Medi, y gobaith yw y bydd y sefyllfa o ran Covid-19 wedi gwella ymhellach ac y bydd gwasanaethau’n dychwelyd i’w trefn arferol, lle caniateir i fyfyrwyr a’r cyhoedd ddefnyddio’r un gwasanaethau.

Yn ôl