Problemau teithio

Newport Bus/TrawsCymru

Oherwydd gwaith adeiladu ym Mryste, ni fydd modd defnyddio’r arhosfan ar gyfer gwasanaeth T7 yn Marlborough Street, Bryste o ddydd Llun 1 Chwefror tan 30 Medi 2021.

Mae’r arosfannau sydd wedi’u clustnodi gan y cyngor ar gyfer gwasanaeth T7 yn golygu y bydd y gwasanaeth yn gorffen ac yn dechrau ei daith o arhosfan Bond Street, sydd 80 metr i ffwrdd o Marlborough Street i gyfeiriad Cabot Circus.

Bydd gwasanaeth T7 yn gwasanaethu arhosfan Cabot Circus i gyfeiriad canol y ddinas, felly ni fydd yn rhaid i gwsmeriaid groesi’r ffordd. Mae’r newid hwn wedi’i gyflwyno oherwydd bod adeilad y South Plaza sydd yn y cyffiniau’n cael ei adnewyddu.

Yn ôl