Problemau teithio

O ddydd Llun 12 Gorffennaf 2021 ymlaen, bydd Arriva yn atal gwasanaeth X51 o Ddinbych i Wrecsam dros dro.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn darparu gwasanaethau yn ei le, a bydd M&H Coaches a Lloyds Coaches o Fachynlleth yn gweithredu ar hyd yr un llwybr. Nodwch na fydd bws X51 am 2300 yn gweithredu.

Gallwch lawrlwytho’r amserlen ar gyfer gwasanaethau rhwng 12 Gorffennaf ac 17 Gorffennaf yma. Bydd amserlen newydd a fydd yn dechrau ar 18 Gorffennaf yn cael ei chyhoeddi’n fuan.

Bydd tocynnau Arriva y talwyd amdanynt eisoes yn cael eu derbyn ar y gwasanaethau newydd tra bydd y newid hwn ar waith.

Bydd newidiadau’n cael eu gwneud hefyd i amserlen gwasanaeth 51 rhwng y Rhyl a Dinbych a grŵp gwasanaethau rhif 11 sy’n gweithredu rhwng y Rhyl a Chaer.

Yn ôl