Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd system unffordd (i gyfeiriad canol tref y Barri) yn gweithredu ar Park Crescent yn y Barri oherwydd gwaith hanfodol ar y rhwydwaith nwy o ddydd Llun 19 Gorffennaf ymlaen am 7 wythnos.

Ni fydd gwasanaethau 96/96A, 97 a 100 i gyfeiriad Colcot Road yn gallu gweithredu ar hyd Park Crescent a byddant yn cael eu dargyfeirio ar hyd Buttrills Road a Barry Road.

Ni fydd yr arosfannau bysiau i gyfeiriad Colcot Road ar hyd Broad Street, Harbour Road (Ship Inn), St Nicholas Road, Park Crescent a Jenner Road yn cael eu gwasanaethu.

Dylai cwsmeriaid sydd fel arfer yn defnyddio’r arhosfan wrth ymyl Williams Stores ar Jenner Road ddefnyddio’r arhosfan dros dro yr ochr arall i’r gylchfan ar Colcot Road.

Nodwch y bydd bysiau i gyfeiriad canol tref y Barri yn dilyn eu llwybr arferol ar hyd Park Crescent.

Yn ôl