Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd Thornhill Road, Caerdydd ar gau dros dro er mwyn rhoi wyneb newydd ar rannau o’r ffordd. Bydd ar gau i’r ddau gyfeiriad rhwng Beulah Road a Templeton Avenue o 20:00 nos Fercher 21 Gorffennaf tan 05:00 ddydd Iau 22 Gorffennaf.

Gwasanaeth 27 o gyfeiriad canol y ddinas:

  • Ni fydd yr arosfannau ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas ar hyd Thornhill Road, rhwng Croesffordd Caerffili a Nine Giants, yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio arhosfan ‘Station’ ar Caerphilly Road neu arhosfan Llangranog Road ar Templeton Avenue yn lle hynny.
  • Ni fydd yr arosfannau ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas ar hyd Heol Hir (rhwng Templeton Avenue a Excalibur Drive) a’r arosfannau ar hyd Excalibur Drive i gyfeiriad Camelot Way yn cael eu gwasanaethu. Caiff cwsmeriaid sydd fel rheol yn gadael y bws ar hyd y rhan hon o’r llwybr eu cynghori i aros ar y bws a’i adael yn hytrach wrth i’r bws deithio’n ôl i gyfeiriad canol y ddinas.

Gwasanaeth 27 i gyfeiriad canol y ddinas:

  • Ni fydd yr arosfannau ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas ar hyd Thornhill Road (rhwng Nine GIants a Chroesffordd Caerffili) yn cael eu gwasanaethu. Yn hytrach, dylech ddefnyddio arhosfan Croesffordd Caerffili ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas neu arhosfan Llangranog Road ar Templeton Avenue.
  • Ni fydd yr arosfannau ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas ar hyd Templeton Avenue yn cael eu gwasanaethu. Caiff cwsmeriaid sydd fel rheol yn dod ar y bws ar hyd Templeton Avenue eu cynghori i ddefnyddio’r arosfannau sydd yr ochr arall i’r ffordd, a mynd ar y bws wrth iddo deithio o gyfeiriad canol y ddinas ac i gyfeiriad Excalibur Drive.

 

NAT Group (Adventure Travel)

NAT_C8_Disuption_July_2021_1.jpg

Yn ôl