Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd Thornhill Road, Caerdydd ar gau dros dro er mwyn rhoi wyneb newydd ar rannau o’r ffordd. Bydd ar gau i’r ddau gyfeiriad rhwng Templeton Avenue ac Excalibur Drive o 20:00 nos Iau 22 Gorffennaf tan 05:00 ddydd Gwener 23 Gorffennaf.

Bydd gwasanaeth 28B yn dilyn ei lwybr arferol i arhosfan bysiau Camelot Way (Excalibur Drive) ac yna, ar gyfer teithiau i gyfeiriad canol y ddinas, bydd yn mynd yn ôl ar hyd Excalibur Drive, Heol Hir a Templeton Avenue. Ym mhen draw Templeton Avenue (Nine Giants), bydd y bws yn troi rownd ac yn teithio’n ôl ar hyd Templeton Avenue i Heol Hir cyn ailymuno â’i lwybr arferol drwy bentref Llanisien i gyfeiriad canol y ddinas.

Ni fydd yr arosfannau ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas ar hyd Thornhill Road, rhwng Excalibur Drive a Templeton Avenue, yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio arosfannau Camelot Way neu Llangranog Road (Templeton Avenue) yn lle hynny.

 

NAT Group (Adventure Travel)

NAT_C8_Disuption_July_2021_2.jpg

Yn ôl