Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

Oherwydd bod Hereford Road ar gau, bydd y dargyfeiriadau canlynol ar waith yn y Fenni:

Gwasanaeth X3

O ddydd Llun 2 Awst tan ddydd Gwener 6 Awst, ac o ddydd Llun 9 Awst tan ddydd Iau 12 Awst

Bysiau 09:20, 11:20, 13:20 a 15:20 o’r Fenni i Henffordd: Ni fydd y bysiau hyn yn gallu gwasanaethu Hereford Road. Yr arhosfan nesaf ar ôl yr orsaf fysiau fydd Llanfihangel Crucornau. Ar ôl gadael gorsaf fysiau’r Fenni, bydd gwasanaeth X3 yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A465 a bydd yn ailymuno â’i lwybr arferol wrth ymyl Abergavenny Fuels.

Bysiau 08:20, 10:20 a 14:20 o Henffordd: Ni fydd y bysiau hyn yn gallu gwasanaethu Hereford Road. Ar ôl Llanfihangel Crucornau, yr arhosfan nesaf fydd gorsaf fysiau’r Fenni. Bydd gwasanaeth X3 yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A465 a’r A40 i’r orsaf fysiau.

Gwasanaeth 47

O ddydd Llun 2 Awst tan ddydd Gwener 6 Awst, a dydd Llun 9 Awst

Bysiau 09:33, 10:33, 11:33, 13:33 a 14:33 o orsaf fysiau’r Fenni: Ni fydd y bysiau hyn yn gallu gwasanaethu hanner cyntaf Hereford Road a bydd yn rhaid iddynt gael eu dargyfeirio ar hyd Penypound er mwyn gwasanaethu Maerdy ac Ystâd Underhill. Bydd bws 12:10 o Lanelen yn gorffen ei daith wrth ymyl Tesco am 12:25.

O ddydd Mawrth 10 Awst tan ddydd Iau 12 Awst

Bysiau 09:33, 10:33, 11:33, 13:33 a 14:33 o orsaf fysiau’r Fenni a bws 12:10 o Lanelen: Oherwydd bod rhan uchaf Hereford Road ar gau, gan gynnwys y gyffordd â Gwent Road, ni fydd y bysiau uchod yn gallu gwasanaethu ystâd Maerdy nac unrhyw fan i’r gogledd o St Teilo’s Road.

Yn ôl