Problemau teithio

Cyngor Gwynedd

O ddydd Llun 2 Awst ymlaen am 3 diwrnod, bydd gwaith yn dechrau ar y cysgodfannau yng Nghanolfan Arosfannau Bysiau Caernarfon.

Dim ond casglu teithwyr y bydd gwasanaethau arhosfan B (83, 88, 92, 93A, S2, S4) yn gallu ei wneud wrth Arhosfan B.

Dim ond gollwng teithwyr y bydd gwasanaethau arhosfan B (83, 88, 92, 93A, S2, S4) yn gallu ei wneud wrth ymyl Arhosfan C (sydd ymhellach i fyny, yn nes at y gylchfan).

Bydd modd i gerddwyr gael mynediad i’r safle sydd ar gau ar hyd llwybr dros dro. Bydd modd i ddefnyddwyr cadair olwyn gael mynediad drwy’r maes parcio (bydd arwyddion wedi’u gosod i roi cyfarwyddiadau).

Yn ôl