Problemau teithio

Oherwydd prinder gyrwyr, bydd TrawsCymru/Brodyr Richards yn lleihau nifer y teithiau ar wasanaeth T5 dros dro o ddydd Llun 6 Medi ymlaen. Caiff y sefyllfa ei hadolygu bob pythefnos. Ni fydd unrhyw newid i’r teithiau rhwng Hwlffordd ac Aberteifi.

Dyma’r teithiau T5 na fyddant yn gweithredu o ddydd Llun 6 Medi ymlaen:

  • O Aberteifi i Aberystwyth: 08.02 a 13.02
  • O Aberystwyth i Aberteifi: 10.10 a 15.10
Mae amserlen dros dro gwasanaeth T5 i’w gweld yma

Mae ein tîm data yn gweithio i ddiweddaru’r wybodaeth hon ar ein Cynlluniwr Taith a’n tudalen Amserlenni cyn gynted ag sy’n bosibl.

Yn ôl