Oherwydd prinder gyrwyr enbyd ar draws y diwydiant trafnidiaeth, mae llawer o weithredwyr yn gorfod newid amserlenni eu gwasanaethau neu ganslo gwasanaethau ar fyr rybudd.
Newidiadau i amserlenni
Mae prinder gyrwyr ar draws y diwydiant trafnidiaeth yn golygu bod rhai gweithredwyr yn newid eu hamserlenni ar fyr rybudd, sy’n golygu na fydd ein Cynlluniwr Taith a’n tudalen Amserlenni efallai wedi’u diweddaru. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
Bydd unrhyw amserlenni byr rybudd a gawn gan weithredwyr yn cael eu hychwanegu at ein tudalen ‘Coronafeirws – Y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau trafnidiaeth’, felly dylech fwrw golwg ar y dudalen honno cyn i chi deithio.
Gwasanaethau’n cael eu canslo ar fyr rybudd
Oherwydd y prinder gyrwyr, mae rhai gwasanaethau bws a thrên yn cael eu canslo ar fyr rybudd (fel rheol ar fore’r diwrnod dan sylw).
Mae’r achosion hyn o ganslo gwasanaethau ar fyr rybudd yn cael eu cyhoeddi ar gyfrifon y gweithredwyr ar gyfryngau cymdeithasol, a byddwn ninnau hefyd yn rhannu’r wybodaeth ar ein sianelau ni ar gyfryngau cymdeithasol. Gallwch ddefnyddio’r dolenni isod i fynd i sianelau Traveline Cymru a’r amryw weithredwyr ar gyfryngau cymdeithasol:
Traveline Cymru |
|
Bysiau Arriva Cymru |
|
Bws Caerdydd |
|
First Cymru |
|
Llew Jones Coaches |
|
Lloyds Coaches |
|
Mid Wales Travel |
|
NAT Group/Adventure Travel |
|
Newport Bus |
|
Phil Anslow Coaches |
|
South Wales Transport |
|
Stagecoach yn Ne Cymru |
|
Stagecoach Glannau Mersi |
|
Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru |
|
Great Western Railway |