Problemau teithio

Arriva Cymru

Oherwydd bod rhan o Ruabon Road yn cael ei chau, bydd gwasanaethau 4A, 4C a 5 yn cael eu dargyfeirio o 6 Medi tan 14 Medi 2021.

Gwasanaeth 5

Bydd gwasanaeth 5 yn dilyn ei lwybr arferol, ond mae’n bosibl y bydd y gwasanaeth yn hwyrach nag arfer.

Gwasanaethau 4A a 4C

Bydd y ddau wasanaeth yn dilyn eu llwybr arferol tan y New Inn, ac yna’n teithio ar hyd Gutter Hill i Ros ac yna’n ailymuno â’u llwybr arferol i Ben-y-cae. Wrth ddychwelyd o Ben-y-cae, bydd y gwasanaethau’n gweithredu yn ôl eu harfer i Ros, ac yna’n teithio ar hyd Gutter Hill (o P&J Garage) i New Inn yn Johnstown ac yn ailymuno â’u llwybr arferol i Wrecsam.

Yn ôl