Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd rhan isaf Heol y Porth, Caerdydd (wrth ymyl y Royal Hotel) ar gau dros dro oherwydd gwaith ffordd o 10:00 ddydd Llun 6 Medi tan amser y bws olaf ddydd Mawrth 30 Tachwedd.

Rhoddir y gorau i ddefnyddio’r arosfannau bysiau sydd wrth ymyl y Swyddfa Brawf a’r Royal Hotel yn Heol y Porth. Dylech ddefnyddio’r arosfannau amgen canlynol yn lle hynny:

  • Gwasanaeth 4 – Heol y Parc (y tu allan i adeilad BT)
  • Gwasanaethau 44/45, 49/50, 52, 57/58 ac X45 (X45 i gyfeiriad Llaneirwg) – Arcêd Wyndham
  • Bydd gwasanaethau 92, 94 a 95 ar ôl 21:00 ar nos Wener a nos Sadwrn yn dechrau/gorffen eu taith o Heol y Parc (y tu allan i adeilad BT)

At hynny, ar yr un dyddiadau, bydd gwasanaethau 17/18 a 96/96A yn mynd i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville, Despenser Gardens, Arglawdd Fitzhamon a Heol y Parc, ac ni fyddant yn gwasanaethu’r arosfannau ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas wrth ymyl Ysbyty Dewi Sant nac yn Heol y Porth. Nid yw’r trefniant hwn yn effeithio ar fysiau o gyfeiriad canol y ddinas, a fydd yn dechrau eu taith o’u harosfannau arferol yn Heol y Porth.

 

Adventure Travel

NAT_Westgate_Street_C8_Diversion_Sept_2021_NEW.

NAT_Westgate_Street_X1_Diversion_Sept_2021_NEW.

Yn ôl