Problemau teithio

Bws Caerdydd

O ddydd Mawrth 7 Medi ymlaen:

  • Gwasanaethau o gyfeiriad y gorllewin: Bydd pob gwasanaeth sy’n dod i mewn i ganol y ddinas o Dreganna yn teithio ar hyd Stryd Neville ac Arglawdd Fitzhamon. Bydd pob gwasanaeth sy’n dod i mewn i’r ddinas ar hyd Heol y Gadeirlan yn teithio ar hyd Stryd Clare ac Arglawdd Fitzhamon.
  • Dargyfeiriadau o gyfeiriad y dwyrain: Bydd gwasanaethau 11, 28/28A/28B, 52 a 57/58 yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Rhodfa’r Orsaf a rhan isaf Ffordd Churchill (dargyfeiriadau nos Wener/Sadwrn) ac yn gorffen eu taith yn Heol Pont-yr-Aes (gwasanaethau 11, 28/28A/28B) neu Heol y Tollty (gwasanaethau 52, 57/58). Ni fydd yr arosfannau bysiau ym Mhlas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin, Heol y Porth a Heol Eglwys Fair yn cael eu gwasanaethu gan y gwasanaethau hyn.
  • Baycar (6): Bydd y gwasanaeth hwn yn teithio mor bell ag Arcêd Wyndham ac ni fydd yn aros yn Heol y Porth na Ffordd y Brenin.
Yn ôl