Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd system unffordd i gyfeiriad y dwyrain yn gweithredu ar hyd Heol y Castell (rhwng Heol y Porth/Pont Caerdydd a Ffordd y Brenin) o ddydd Sul 12 Medi tan ddydd Mercher 3 Tachwedd rhwng 20:00 ac amser y bws olaf, bob nos Sul tan bob nos Fercher (ond nid bob nos Iau tan bob nos Sadwrn).

Bydd bysiau gwasanaethau 11, 21, 23, 25, 27, 28B, 35, 44/45, 49/50, 52 a 57/58 i gyfeiriad canol y ddinas, a fyddai fel rheol yn teithio ar hyd Heol y Castell, yn cael eu dargyfeirio. Felly, ni fydd yr arosfannau canlynol ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu: arhosfan GR Ffordd y Brenin, Heol y Castell, Stryd y Cei a’r Royal Hotel.

Bydd y bysiau’n aros wrth ymyl yr arosfannau canlynol:

  • Gwasanaethau 11 a 28B i gyfeiriad canol y ddinas: Gorsaf Heol y Frenhines a Heol Pont-yr-Aes (bydd y bysiau’n aros yn ôl yr arfer wrth ymyl yr arosfannau ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn Heol Pont-yr-Aes)
  • Gwasanaethau 21, 23, 25 a 27 i gyfeiriad canol y ddinas: Y Llysoedd (Heol y Gogledd), Gorsaf Heol y Frenhines a Stryd y Parc (bydd y bysiau’n aros yn ôl yr arfer wrth ymyl yr arosfannau ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas)
  • Gwasanaethau 35, 44/45 a 49/50 i gyfeiriad canol y ddinas: Gorsaf Heol y Frenhines ac Arcêd Wyndham. Yna, bydd y bysiau’n aros yn ôl yr arfer wrth ymyl yr arosfannau ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas o Bute Terrace ymlaen
  • Gwasanaethau 52 a 57/58 i gyfeiriad canol y ddinas: Gorsaf Heol y Frenhines, Arcêd Wyndham ac arhosfan JG Heol y Tollty. Yna, bydd y bysiau’n aros yn ôl yr arfer wrth ymyl yr arosfannau ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas o arhosfan JG Heol y Tollty ymlaen

 

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd bysiau o Gaerdydd ar ôl 20:00 yn ymadael o Heol y Brodyr Llwydion yn lle arhosfan JP yn rhan isaf Heol Eglwys Fair o nos Fawrth 7 Medi ymlaen, bob nos Lun, nos Fawrth a nos Fercher tan ddiwedd mis Hydref. 

Bydd y trefniant hwn yn effeithio ar y gwasanaethau canlynol:

  • Bysiau 20:00 a 21:00 gwasanaeth 26
  • Bws 20:35 gwasanaeth 132

Bydd gwasanaethau 132, 26, X3, X4C, 122, 124 a T4C yn cael eu dargyfeirio’n unol â’r gwaith ffordd a fydd yn digwydd yn yr ardal.

Yn ôl