Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd Dame Shirley Bassey Way (Central Way) yn Ysbyty’r Waun ar gau drwy’r dydd oherwydd gwaith sy’n cael ei gyflawni y tu allan i fynedfa’r Uned Blant, o ddydd Mercher 15 Medi tan ddydd Gwener 17 Medi.

Ni fydd yr arosfannau bysiau wrth ymyl yr Uned Blant a gyferbyn â’r Brif Fynedfa yn cael eu gwasanaethu. Dyma’r arosfannau amgen:

  • Gwasanaethau 1 a 51 – Heath Park Way a Thŷ Maeth
  • Gwasanaethau 8/9/9A, 15 a 64 – Heath Park Way, yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys (The Gateway) a’r Ysbyty Deintyddol
  • Gwasanaethau 65/65A – yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys (The Gateway), yr Ysbyty Deintyddol, Heath Park Way a Thŷ Maeth
  • Gwasanaeth 95 – y prif faes parcio, yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys (The Gateway), yr Ysbyty Deintyddol, Heath Park Way a Thŷ Maeth
Yn ôl