Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd modd defnyddio dau arhosfan bysiau newydd ar Stryd Wood (y tu allan i adeilad newydd swyddfa dreth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi) o ddydd Sadwrn 18 Medi ymlaen, a fydd yn golygu newidiadau i arosfannau bysiau gwasanaethau 8 a 9 (i gyfeiriad Ysbyty’r Waun), gwasanaeth X45 (i gyfeiriad Llaneirwg) a gwasanaethau 92/93/94 a 95, fel a ganlyn:

  • Bydd gwasanaethau 8 a 9 (i gyfeiriad Ysbyty’r Waun) a gwasanaeth X45 (i gyfeiriad Llaneirwg) yn aros wrth arhosfan newydd JB (sydd agosaf at Stryd Tudor) ar Stryd Wood yn hytrach nag wrth Arcêd Wyndham

  • Bydd gwasanaethau 92/93/94 a 95 yn GOLLWNG teithwyr (ond nid yn eu casglu) wrth arhosfan newydd JA (sydd agosaf at Stryd Havelock) ar Stryd Wood yn hytrach nag wrth Arcêd Wyndham. Dylech barhau i ddefnyddio’r arhosfan wrth y Philharmonic ar gyfer bysiau 92/93/94/95 sy’n teithio o gyfeiriad canol y ddinas i gyfeiriad Penarth a’r Barri.
Yn ôl