Bws Caerdydd
Bydd Templeton Avenue, Llanisien ar gau i’r ddau gyfeiriad o Thornhill Road i White Barn Road rhwng yr amserau canlynol ar y dyddiadau canlynol er mwyn atgyweirio’r ffordd:
- Rhwng 20:00 nos Iau 23 Medi a 05:00 ddydd Gwener 24 Medi
- Rhwng 20:00 nos Wener 24 Medi a 05:00 ddydd Sadwrn 25 Medi.
Gwasanaeth 27:
- Bydd gwasanaeth 27 i gyfeiriad y Ddraenen yn dilyn ei lwybr arferol i Groesffordd Caerffili, ac yna’n teithio ar hyd Tŷ Glas Road a Heol Hir i’r Ddraenen.
- Bydd gwasanaeth 27 i gyfeiriad canol y ddinas yn dilyn ei lwybr arferol i Heol Hir a chyffordd Templeton Avenue, ac yna’n cael ei ddargyfeirio ar hyd Heol Hir a Tŷ Glas Road i Groesffordd Caerffili.
- Ni fydd arosfannau bysiau gwasanaeth 27 ar hyd Thornhill Road a Templeton Avenue yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau ar hyd llwybr y dargyfeiriad yn lle hynny.
Gwasanaeth 28B:
- Bydd gwasanaeth 28B i gyfeiriad canol y ddinas yn dilyn ei lwybr arferol i Thornhill Road a chyffordd Templeton Avenue, ac yna’n teithio ar hyd Thornhill Road a Tŷ Glas Road i bentref Llanisien.
- Ni fydd arosfannau gwasanaeth 28B ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas, ar hyd Templeton Avenue a Heol Hir, yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau ar hyd llwybr y dargyfeiriad yn lle hynny.