Problemau teithio

Bydd ffyrdd ar gau yn ardal Bae Caerdydd rhwng 8:00 a 13:30 ddydd Sul 26 Medi oherwydd Ras 10 Cilomedr Bae Caerdydd.

Bws Caerdydd

  • Bydd gwasanaeth 6 (Baycar) yn dechrau/gorffen wrth ymyl Cei’r Fôr-forwyn (yr arhosfan ar gyfer bysiau i gyfeiriad y de) a bydd yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Heol Dumballs a James Street i’r ddau gyfeiriad. Ni fydd yr arosfannau bysiau ar hyd Rhodfa Lloyd George ac wrth ymyl y Flourish a Chanolfan y Mileniwm yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arhosfan wrth ymyl Cei’r Fôr-forwyn, ar gyfer bysiau i gyfeiriad y de, neu’r arosfannau ar hyd llwybr y dargyfeiriad yn lle hynny.

  • Bydd gwasanaeth 8 yn dechrau/gorffen wrth ymyl Cei’r Fôr-forwyn (yr arhosfan ar gyfer bysiau i gyfeiriad y gogledd). Ni fydd yr arosfannau bysiau ar hyd Stryd Bute, Heol Hemmingway, Stryd Pen y Lanfa a Chanolfan y Mileniwm yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arhosfan wrth ymyl Cei’r Fôr-forwyn, ar gyfer bysiau i gyfeiriad y gogledd, yn lle hynny.
Yn ôl