Problemau teithio

Cyngor Caerffili/Stagecoach South Wales/NAT

Bydd y brif ffordd ar gau wrth ymyl Groes-faen Terrace (rhwng Bargod a Deri) er mwyn i waith draenio gael ei gyflawni rhwng yr amserau canlynol ar y dyddiadau canlynol:

  • Cau’r ffordd am y tro cyntaf: O 8am ddydd Sadwrn 9 Hydref tan 4pm ddydd Sul 10 Hydref 2021.
  • Cau’r ffordd am yr ail dro: Bob dydd o’r bore bach ddydd Llun 18 Hydref ymlaen, am gyfnod o hyd at 8 wythnos.

O ganlyniad, ni fydd bysiau gwasanaeth 1 yn gallu gwasanaethu Cwm Darran. Yn hytrach, byddant yn teithio’n uniongyrchol ar hyd yr A469 rhwng Pontlotyn (y Sgwâr) a Bargod (Factory Road).

Bydd bws gwennol rhad ac am ddim (llwybr 1A) yn gweithredu rhwng Groes-faen, Deri, Pen-twyn, Fochriw, Brynhyfryd a Phontlotyn er mwyn cysylltu â’r rhan fwyaf o fysiau llwybr 1 ar y Sgwâr ym Mhontlotyn.

Mae amserlen y bws gwennol i’w gweld yma.

 

Yn ôl