Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd ffordd ar gau yn Aberpennar bob dydd rhwng 09:00 a 16:30 o ddydd Llun 25 Hydref tan ddydd Gwener 29 Hydref:

  • Bydd gwasanaeth 60/61 yn cael ei ddargyfeirio drwy Berthcelyn, ac ni fydd yn gwasanaethu Penrhiw-ceibr.
  • Bydd gwasanaeth 95A yn teithio rhwng Aberdâr ac Aberpennar yn unig. Ni fydd yn gwasanaethu Perthcelyn ond bydd yn parhau i wasanaethu Ysbyty Aberpennar.

Ni fydd yr amserau’n newid. Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybrau arferol y tu allan i’r cyfnodau a nodir uchod.

Mae bws gwennol yn cael ei ddarparu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, a bydd yn teithio o Orsaf Drenau Aberpennar a Gorsaf Derfynol Perthcelyn er mwyn cwrdd â gwasanaethau 60 a 61 a fydd yn cael eu dargyfeirio drwy Berthcelyn tra bydd y ffordd ar gau.

Yn ôl