Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd Heol Birchgrove, Caerdydd ar gau o Heol Caerffili i gyfeiriad Manor Way/Y Ffilog oherwydd gwaith ffordd y tu allan i Ysgol Gynradd Llwynbedw ddydd Llun 25 Hydref a dydd Mawrth 26 Hydref rhwng 09:30 a 15:30 bob dydd.

Bydd gwasanaeth 21 yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Heol Caerffili a Heol Tŷ Wern. Ni fydd yr arosfannau bysiau yn Pantbach Road rhwng Heol Birchgrove a Heol Tŷ Wern yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau ar hyd Heol Caerffili yn lle hynny.

Bydd gwasanaeth 64 i gyfeiriad yr Eglwys Newydd yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Heol Caerffili, drwy Gyfnewidfa Gabalfa ac ar hyd Heol y Gogledd (i gyfeiriad y gogledd). Ni fydd yr arhosfan bysiau yn Heol Birchgrove yn cael ei wasanaethu. Dylech ddefnyddio arhosfan Cross Inn yn Heol Caerffili ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas, neu’r arosfannau yn y Ffilog, yn lle hynny.

Yn ôl