Problemau teithio

Diweddariadau Byr Rybudd am Wasanaethau

Oherwydd prinder gyrwyr enbyd ar draws y diwydiant trafnidiaeth, mae llawer o weithredwyr yn gorfod newid amserlenni eu gwasanaethau neu ganslo gwasanaethau ar fyr rybudd.

Mae prinder gyrwyr ar draws y diwydiant trafnidiaeth yn golygu bod rhai gweithredwyr yn newid eu hamserlenni ar fyr rybudd, sy’n golygu ei bod yn bosibl na fydd ein Cynlluniwr Taith a’n tudalen Amserlenni yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Bydd unrhyw amserlenni a ddiweddarwyd y byddwn yn eu cael gan weithredwyr yn cael eu hychwanegu isod. Dylech edrych dan enw’r gweithredwr perthnasol.

Os oes unrhyw wybodaeth yn anghywir neu os oes unrhyw amserlenni a ddiweddarwyd ar goll yn eich barn chi, anfonwch ebost i feedbacktraveline@tfw.wales ac fe wnawn ni ymchwilio i hynny ar eich rhan cyn gynted ag sy’n bosibl.

Gwasanaethau’n cael eu canslo ar fyr rybudd

Oherwydd y prinder gyrwyr, mae rhai gwasanaethau bws a thrên yn cael eu canslo ar fyr rybudd (fel rheol ar fore’r diwrnod dan sylw).

Mae’r achosion hyn o ganslo gwasanaethau ar fyr rybudd yn cael eu cyhoeddi ar gyfrifon y gweithredwyr ar gyfryngau cymdeithasol, a byddwn ninnau hefyd yn rhannu’r wybodaeth ar ein sianelau ni ar gyfryngau cymdeithasol. Gallwch ddefnyddio’r dolenni isod i fynd i sianelau Traveline Cymru a’r amryw weithredwyr ar gyfryngau cymdeithasol:

Traveline Cymru

@TravelineCymru

Bysiau Arriva Cymru

@arrivabuswales

Bws Caerdydd

@Cardiffbus

First Cymru

@FirstCymru

Llew Jones Coaches

@LlewJonesLtd

Lloyds Coaches

@LloydsCoaches

Mid Wales Travel

@MidWalesTravel

Adventure Travel

@AdvTravelBus

Newport Bus

@NewportBus

Phil Anslow Coaches

@PhilAnslowCoaches

South Wales Transport

@swalestransport

Stagecoach yn Ne Cymru

@StagecoachWales

Stagecoach Glannau Mersi

@StagecoachMCSL

Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru

@tfwrail

Great Western Railway

@GWRHelp

Yn ôl