Problemau teithio

Bws Caerdydd

Nos 24/11/2021, bydd Heol Lecwydd ar gau am oddeutu 30 munud wrth ymyl Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi i’r gêm rhwng Caerdydd a Hull ddod i ben, er mwyn cadw’r dorf yn ddiogel. Bydd gwasanaethau’n cael eu dargyfeirio fel a ganlyn:

  • Gwasanaeth 1 – Bydd y bws sy’n gadael Canal Street am 16:20 yn dilyn ei lwybr arferol i Heol Clare, ac yna’n teithio ar hyd Heol Parc Ninian a Kitchener Road i Heol Lecwydd. Ni fydd arosfannau bysiau Cornwall Street, Virgil Street, Sloper Road a Leckwith Place yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau bysiau ar hyd llwybr y dargyfeiriad yn lle hynny.
  • Gwasanaeth 2 – Bydd y bws sy’n gadael Canal Street am 15:50 yn dilyn ei lwybr arferol i Heol Lecwydd, ac yna’n teithio ar hyd Kitchener Road a Heol Parc Ninian i Heol Clare. Ni fydd arosfannau bysiau Leckwith Place, Sloper Road, Virgil Street a Cornwall Street yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau bysiau ar hyd llwybr y dargyfeiriad yn lle hynny.
  • Gwasanaeth 95 – Bydd y bws sy’n gadael y Philharmonic am 16:35 a’r bysiau sy’n gadael Ynys y Barri am 15:44 a 16:10 yn cael eu dargyfeirio ar hyd Hadfield Road a Heol Penarth. Ni fydd arosfannau bysiau Heol Lecwydd a Heol Parc Ninian yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau bysiau ar hyd llwybr y dargyfeiriad yn lle hynny.
Yn ôl