Problemau teithio

Bws Caerdydd

O 06/09/2021, rhoddir y gorau dros dro i ddefnyddio’r arosfannau bysiau sydd wrth ymyl y Swyddfa Brawf a’r Royal Hotel yn Heol y Porth. Dylech ddefnyddio’r arosfannau amgen canlynol yn eu lle:

  • Gwasanaeth 4 – Stryd y Parc (y tu allan i adeilad BT)
  • Baycar (Gwasanaeth 6) – Bydd y gwasanaeth hwn yn teithio hyd at Heol Eglwys Fair ac ni fydd yn gwasanaethu Heol y Porth na Ffordd y Brenin
  • Bydd gwasanaethau 11 a 28/28A/28B yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Rhodfa’r Orsaf a rhan isaf Ffordd Churchill (llwybr dargyfeirio nos Wener/Sadwrn) ac yn gorffen eu taith yn Heol Pont-yr-Aes
  • Gwasanaethau 44/45, 49/50, 52, 57/58 ac X45 (X45 i gyfeiriad Llaneirwg) – Arcêd Wyndham
  • Bydd gwasanaethau 92, 94 a 95 ar ôl 21:00 ar nos Wener a nos Sadwrn yn dechrau/gorffen yn Stryd y Parc (y tu allan i adeilad BT)
  • Bydd gwasanaethau 17/18 a 96/96A yn mynd i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville, Despenser Gardens, Arglawdd Fitzhamon a Stryd y Parc, ac ni fyddant yn gwasanaethu arosfannau bysiau i gyfeiriad canol y ddinas wrth ymyl Ysbyty Dewi Sant ac yn Heol y Porth.
  • Bydd y trefniadau ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn parhau’r un fath a byddant yn gadael o’u harosfannau arferol yn Heol y Porth.
  • Nodwch y bydd pob bws i gyfeiriad canol y ddinas, sy’n rhan o wasanaethau 13, 15, 25, 62, 63, 64 a 66, yn parhau i ddilyn eu llwybr arferol dros Bont Caerdydd ac i lawr Heol y Porth.

Gallwch ddilyn y ddolen gyswllt isod i gael y manylion diweddaraf: https://www.cardiffbus.com/travel-updates

Yn ôl