Problemau teithio

Gwasanaeth 460 Brodyr Richards – Rhoi’r gorau dros dro i ddefnyddio arhosfan Ysbyty Glangwili o 02/12/2021 tan 08/12/2021

Brodyr Richards

Oherwydd bod ffordd ar gau ar hyd llwybr gwasanaeth 460 Brodyr Richards, ni fydd y gwasanaeth yn gallu gwasanaethu Ysbyty Glangwili o ddydd Iau 2 Rhagfyr tan ddydd Mercher 8 Rhagfyr 2021.

Byddai’r dargyfeiriad er mwyn ceisio gwasanaethu’r lleoliad hwn yn ddargyfeiriad hir a fyddai’n achosi llawer o oedi, felly penderfynwyd peidio â gwasanaethu’r ysbyty yn ystod y cyfnod dan sylw.

Bydd gwasanaeth 'PR1' ar gael, sy’n gadael yr orsaf fysiau yng Nghaerfyrddin bob hanner awr ac sy’n aros wrth ymyl Ysbyty Glangwili. Mae gwasanaeth T1 a gwasanaeth 281 yn gwasanaethu Ysbyty Glangwili hefyd.

Yn ôl