Gwasanaethau First Cymru, TrawsCymru a National Express
Bydd cilfannau 1, 2 a 3 yng Ngorsaf Fysiau Caerfyrddin ar gau ar gyfer gwaith adeiladu o ddydd Llun, 6 Mehefin tan ddydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2022 a byddant yn ailagor ddydd Mercher, 13 Gorffennaf 2022. Dyma'r 3 arhosfan bysiau ar hyd Heol Las. Ni fydd cau'r cilfannau hyn yn effeithio ar y bysiau sy'n defnyddio cilfannau 4 - 10 yn yr orsaf fysiau a byddant yn parhau i weithredu yn ôl yr arfer.
Yn ystod y cyfnod hwn bydd y gwasanaethau bws lleol a choetsys y National Express, sydd fel arfer yn defnyddio cilfannau 1, 2 a 3, yn casglu ac yn gollwng teithwyr yn yr arhosfan bysiau ar Heol Awst, y tu allan i westy'r Boar's Head a siop y YMCA.
Bydd hyn yn effeithio ar y gwasanaethau bysiau canlynol:
- 195 i Lanelli (ond nid y siwrnai am 0814 ar ddiwrnodau ysgol i Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth a fydd yn parhau i ddefnyddio cilfan 8 yn yr Orsaf Fysiau)
- 197 i Lanelli
- 221 i Login ac i Efail-wen
- 223 i Efail-wen ac i Glandy Cross
- 281 i Lanymddyfri (gadael am 0605 yn unig, bydd y siwrneiau eraill yn dal i ddefnyddio cilfan 8 yn yr Orsaf Fysiau)
- T1 i Lanbedr Pont Steffan ac i Aberystwyth
- T1c i Gaerdydd ac i Aberystwyth
- X11 i Lanelli ac i Abertawe
- X29 i Dŷ-croes